Clwb y Ddraig - After School Club
Welcome to Clwb y Ddraig - After School Club
At Clwb y Ddraig we offer after school care through the medium of Welsh for children from Reception to Year 6 and have vacancies for a maximum of sixteen children per day. We are open throughout term time from Monday to Thursday, 3.30pm until 5.30pm. The children will be collected from their classes at the end of the school day and escorted to the hall which is used for the after school club.
We have a selection of board games, jigsaws, construction kits available for the children to play and there are books to read if your child wants to have a quiet time and relax. Sometimes daily activities will include helping to make toast and sandwiches. Also, there are cooking activities made available throughout the term.
Food
A healthy snack will be provided daily and milk / water will be readily available throughout their time at the club.
Staff
All members of staff are employed by this school and are experienced child care practitioners who are committed to their job. We will have a minimum of two staff working at all times in order to comply with a maximum ratio of 1:8. All staff working at the club has a DBS (CRB) check and there will always be a member of staff present with a valid first aid certificate.
Arrival and Collection of Children
Your child will be collected from their classes and escorted to the club at the end of the day. If they are not in school that day, then you will need to inform us as soon as possible. We will only release children from our care to a registered carer, therefore if an alternative adult is to collect them then we will need to be informed. Please note that no child can be collected by someone under the age of 18. Please collect your child from the main entrance.
Equal Opportunities
We value all children from different cultures and backgrounds. Every attempt will be made to meet any necessary requirements. A more detailed outline of this can be found in our Equal
Opportunities / Race Equality policy. We see full inclusion as an acceptance of other children and full details can be found in our Additional Needs Policy.
Health & Safety
Health and safety is very important and there are many checks that we will regularly carry out to ensure the environment is continuously safe for all children.
Checks include:
- Inspection of the toys and equipment.
- Inspection of electrical sockets to ensure that they are safe.
- Inspecting the premises for faults / hazards and report it immediately to the head-teacher/caretaker.
- Check that all outside areas in use are free from debris.
- Regular fire drills to ensure that the children know what to do in the event of a fire.
- A daily register to ensure that we can account for every child.
- Accompanying younger children to the toilet.
Illness
If your child is ill then they will not be allowed to attend the club. We also request that you contact the school to inform us that the child is absent. If a child is ill whilst in our care, a phone call will be made to the main carer. If the main carer is unavailable then we will use the other emergency contact details.
Communication
Our staff are always available for discussion about your child. You can contact us via e-mail,
telephone or in person.
Policies
All aspects of the after school club will have a policy written for them. These will be readily available for inspection. They will be kept in a folder on the premises at all opening times.
Registration
If Clwb y Ddraig meets your needs, then please complete the necessary forms. Please use the Arbor app or parent portal to pre-book your required sessions. Fees are £10 per child per day. £5 for an additional sibling if booked on the same day.
All sessions booked must be paid for regardless of whether the child attends. No refunds will be given for sessions missed due to illness as staff will have been organised. Failure to meet payments may result in the termination of the child’s place at the Club. Notice will be given before any increase in charges is implemented.
Termination
We reserve the right to terminate a place with immediate effect if any fees are not paid by the due date, or if a parent / carer or child displays abusive, threatening or inappropriate behaviour.
Personal Property & Belongings
We cannot be held responsible for any loss or damage to children’s property. Every reasonable effort will be made by the staff to ensure that the children’s belongings are not lost or damaged. It is the parent’s responsibility to clearly name all items of clothing. We suggest that all toys, books or other equipment is left at home.
Liability
We accept no responsibility for any loss suffered by parents, arising directly or indirectly as a result of the Club being temporarily closed or the non-admittance of your child to the Club for any reason, this applies to absences due to sickness. We accept no responsibility for children whilst in their parents care on Club premises. We will make every effort to keep parents’ / children’s property in good order. Liability for damage of such property is excluded except where caused by our negligence.
Photographs
You will be required to sign a consent form for your child to be photographed during their time at the club. These will only be used on displays within the school premises. Any photographs that we would like to put on the school website will be anonymised.
And finally……
If you have any further questions or queries, then please do not hesitate to contact us. The member of staff leading the club is Miss Dalton and she is assisted by Miss Cichocki, Mrs Beames and Miss Thomas who already work in the school and are known to the children.
Yng Nghlwb y Ddraig rydym yn cynnig gofal ar ôl ysgol trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer plant 3-11 ac mae gennym le ar gyfer 16 o blant bob dydd. Rydym ar agor yn ystod y tymor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener o 3.30 yp tan 5.30 yp. Mi fydd y plant yn cael eu casglu o’u dosbarthiadau ar ddiwedd y dydd ac yn cael eu tywys i’r neuadd lle cynhelir y clwb ar hyn o bryd.
Gweithgareddau
Rydym yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaeth o’r radd orau lle mae datblygiad emosiynol a chymdeithasol bob plentyn yn bennaf. Bob dydd mi fydd y plant yn cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau sydd ynghlwm â thema. Mi fydd celf a chrefft ar gael bob dydd yn cynnwys torri, gludo, paentio ac arlunio. Lle bynnag posib mi fydd y plant yn cael cyfle i fynd â’u gwaith adref.
Os ydy’r tywydd yn ganiataol mi fydd gweithgareddau allanol ar gael. Wrth ddefnyddio’r ardaloedd allanol mi fyddwn yn gwneud defnydd o faes yr ysgol a’r gwair lle fydd gemau ar y cyd a chwarae rhydd gan ddefnyddio cylchoedd, rhaffau sgipio a pheli er mwyn datblygu sgiliau.
Mae gennym ddewis o gemau bwrdd, jig-sos ac offer adeiladu er mwyn i’r plant chwarae ar y cyd ac mae yna lyfrau pan fod unrhyw blentyn angen amser tawel i ymlacio. Weithiau mi fydd cyfleoedd i helpu gwneud tost neu frechdanau. Mi fydd gweithgareddau coginio hefyd ar gael o bryd i’w gilydd.
Bwyd
Mi fydd byrbryd iachus ar gael yn ddyddiol a llaeth / dwr i’w yfed.
Staff
Mae staff y clwb i gyd wedi’u cyflogi gan yr ysgol, yn brofiadol wrth ddelio gydag anghenion plant ac yn ymrwymedig i’w gwaith. Mi fydd o leiaf 2 aelod o staff yn bresennol ar bob adeg er mwyn cyfateb â chyfartaledd o 1:8. Mae gan bob aelod o staff warchod DBS a thystysgrif Cymorth Cyntaf.
Derbyn a chasglu plant
Mi fydd eich plentyn yn cael ei gasglu o’r dosbarth a’i hebrwng i safle’r clwb ar ddiwedd y dydd. Os nad ydynt yn yr ysgol rhaid i’r staff gael gwybod cyn gynted ag sy’n bosibl. Rydyn ni ond yn caniatáu i blentyn adael y clwb os ydy’r oedolyn yn adnabyddus i ni. Ac felly os oes trefniadau wedi newid mae’n rhaid i staff yr ysgol gael gwybod. Ni allwn adael i blentyn gael ei gasglu gan unrhywun o dan 18 mlwydd oed. Mae modd i chi gasglu eich plentyn o’r brif fynedfa.
Cyfleoedd Cyfartal
Rydym yn parchu plant o wahanol ddiwylliannau a chefndiroedd. Mi fydd pob ymdrech yn cael ei wneud i ymateb at unrhyw anghenion neu ddymuniadau ychwanegol. Ceir amlinelliad mwy manwl yn ein Polisi Cyfleoedd Cyfartal. Rydym yn gweld cynhwysiad llawn fel y parodrwydd i dderbyn plant eraill ac fe geir manylion llawn yn ein Polisi Anghenion Ychwanegol.
Iechyd a Diogelwch
Mae Iechyd a Diogelwch yn hanfodol bwysig ac mae yna nifer o archwiliadau cyson er mwyn sicrhau fod yr amgylchfyd yn addas ac yn ddiogel i blant.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Archwiliad o deganau ac offer.
- Archwiliad o offer trydanol.
- Sicrhau fod y pennaeth / gofalwr yn ymwybodol o unrhyw beryglon / ddiffygion.
- Sicrhau fod yr ardaloedd allanol yn rhydd o unrhyw sbwriel.
- Driliau tân cyson i sicrhau fod y plant a’r staff yn gwybod sut i adael y safle yn ddiogel.
- Cofrestr ddyddiol i sicrhau fod pob plentyn yn ddiogel.
- Gofalu am y plant ifancaf pan maent yn mynd i’r tŷ bach.
Salwch
Os ydy eich plentyn yn ddi-hwyl ni fyddant yn gallu mynychu’r clwb. Rydym hefyd yn gofyn i chi adael i aelod o staff wybod os ydy eich plentyn yn absennol o’r Ysgol. Os ydy eich plentyn yn sâl tra yn y clwb, mi fydd aelod o staff yn gwneud galwad ffôn i’r prif warcheidwad neu un o’r rhifau arall ar y ffurflen gyswllt.
Cyfathrebu
Mae ein staff bob amser ar gael i drafod eich plentyn. Mae modd i chi gysylltu â ni drwy e-bost neu pan fyddwch yn casglu.
Polisïau
Mae gennym bolisi ar gyfer bob agwedd o’r clwb ac maent ar gael ar unrhyw adeg yn yr ysgol.
Cofrestri a Taliadau
Os ydy Clwb y Ddraig yn cyfateb â’ch gofynion, mae croeso gyda chi gysylltu â ni a chwblhau’r ffurflenni perthnasol. Mae’n bosib i chi bwcio lle drwy app Arbor neu’r parent-portal. Mae Clwb y Ddraig yn codi £10 ar gyfer bob plentyn y dydd (£5 ychwanegol am siblings sy’n bwcio yr un diwrnod).
Rhaid talu am y sesiynau os ydy’r plentyn yn mynychu neu beidio. Ni thelir arian yn ôl os ydy plentyn yn absennol oherwydd rhaid sicrhau presenoldeb staff. Gallai ddiffyg taliad arwain at le yn y clwb yn cael eu colli. Mi fydd rhybudd yn cael ei anfon os oes unrhyw newid neu godiad mewn costau.
Newid mewn trefniadau
Mae gennym yr hawl i derfynu lle yn syth os nad ydy rhiant wedi talu neu os ydy rhiant neu blentyn yn ymddwyn mewn ffordd annerbyniol.
Eiddo Personol
Ni allwn fod yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod i eiddo’r plant. Mi fyddwn yn cymryd pob gofal i sicrhau fod eiddo yn ddiogel. Cyfrifoldeb y rhiant / warcheidwad yw rhoi enw yn glir ar bob eitem o ddillad. Rydym yn cymeradwyo fod eitemau personol fel teganau, llyfrau neu offer arall yn aros adre.
Cyfrifoldeb
Ni allwn fod yn gyfrifol am unrhyw golled ar ran rhieni yn sgil fod y clwb ar gau neu fod eich plentyn yn cael ei wrthod am unrhyw reswm. Mae hyn yn berthnasol pan fod eich plentyn yn sâl hefyd. Does gan staff y clwb ddim cyfrifoldeb am blentyn os ydy rhiant/ warcheidwad ar y safle. Mi fyddwn yn gwneud pob ymdrech i ofalu am eiddo rhieni / plant. Ni allwn fod yn gyfrifol am unrhyw ddifrod oni bai ein bod yn esgeulus.
Lluniau
Rydym yn gofyn yn garedig i chi arwyddo ffurflen yn rhoi caniatâd i’ch plentyn gael ei lun wedi tynnu yn ystod ei amser yn y clwb. Mi fydd y rhain yn cael eu defnyddio ar arddangosfeydd o fewn yr Ysgol ac mi fydd unrhyw luniau sydd yn cael eu gosod ar wefan yr ysgol yn ddi-enw.
Ac yn olaf….
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â ni’n syth. Yr aelod o staff sydd yn arwain y clwb yw Miss Dalton ac mae hi’n cael ei chynorthwyo gan Miss Cichocki, Mrs Beames a Miss Thomas. Mae’r staff i gyd yn gweithio o fewn yr ysgol ac yn adnabyddus i’r plant.