Menu
Home Page

CRhA ~ PTA

2022 - 2023

 

Rydym eisoes wedi dechrau cynllunio digwyddiadau ar gyfer eleni i godi arian pellach i’r ysgol ac yn chwilio am wirfoddolwyr sy’n fodlon ymuno â’r pwyllgor. Mae’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yn awyddus i drefnu a hyrwyddo digwyddiadau sy’n helpu i adeiladu ysbryd cymunedol o fewn yr ysgol a’r gymuned yn gyffredinol, yn ogystal â chodi arian i sicrhau bod amser ein plant yn yr ysgol mor hwylus ac arbennig â phosibl. Gobeithiwn y byddwch yn parhau i'n cefnogi fel o'r blaen gan y bydd angen llawer o syniadau creadigol arnom!

 

Byddwn yn cynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol am 3.45 o’r gloch ar ddydd Iau'r 6ed o Hydref yn neuadd yr ysgol a gobeithiwn y bydd cymaint ohonoch â phosib yn gallu mynychu. Yn y CCB byddwn yn ethol ein Pwyllgor Cymdeithas Rhieni ac Athrawon, sy'n cynnwys Cadeirydd, Is-gadeirydd, Ysgrifennydd, Trysorydd a Dirprwy Drysorydd.

Croeso i bawb.

 

We have already started planning events for this year to raise further funding for the school and are looking for volunteers who are willing to join the committee. The PTA are keen to arrange and promote events that help build community spirit within the school and the community at large, as well as raising funds to make our children’s time in school as fun and special as possible. We hope that you will continue to support us just as before as we are going to need lots of creative ideas!

 

We will be holding an AGM at 3.45 pm on Thursday the 6th of October in the school hall and we hope that as many of you as possible can attend. At the AGM we will be electing our PTA Committee, consisting of Chairman, Vice Chairman, Secretary, Treasurer and Deputy Treasurer.

All welcome 

 

Digwyddiadau Tymor yr Hydref 2022 / Autumn Term Events 2022

 

 

w/c 19/09 

Cardiau Nadolig / Christmas cards  

(Dychwelyd erbyn/returned by 7.10.22) 

22/09 

Prynhawn Te a Choffi – Neuadd yr ysgol 3.30yp – 4.40yp 

Welcome tea/coffee afternoon - school hall 3.30pm – 4.40pm 

w/c 26/09 

Casglu cyfraniadau dillad Calan Gaeaf a dillad gaeafol 

Donations - Halloween costumes + winter wear (e.g. coats, wellies, hats, gloves). 

06/10 

CCB CRhA – Neuadd yr Ysgol 3.45yp 

PTA AGM – School Hall 3.45pm 

07/10 

Dychwelyd Cardiau Nadolig 

Deadline for the return of Christmas cards 

w/c 10/10 

Arwerthiant dillad Calan Gaeaf & dillad Gaeaf 

Halloween and winter wear sale 

18/10 

Disgo Calan Gaeaf 

Halloween Disco 

w/c  

7/11 

Casglu cyfraniadau – Dillad Nadolig/Ffair Nadolig 

Lawsnio Marchnad Nadolig ar lein 

Donations: Christmas clothes (jumpers, pyjamas)/Christmas fayre 

Launch of online Christmas Market 

w/c 21/11 

Arwerthiant Dillad Nadolig 

Christmas clothes sale 

09/12 

Ffair Nadolig / Christmas Fayre 

Cylchlythyr / Newsletter

Disgo Arswydus / Spooky Disco 18.10.22

Top